Canolfan Mileniwm Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau arian
pensaeriau
Llinell 23:
[[Delwedd:Ybae02LB.jpg|bawd|chwith]]
[[Delwedd:Ybae07LB.jpg|bawd|chwith]]
Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw '''Canolfan Mileniwm Cymru''' a leolir yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]. Gobeithir y bydd doniau [[opera]], bale, [[sioe gerdd|sioeau cerdd]] a [[dawns]] gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi; darparodd y Cynulliad Cenedlaethol rant o £37 miliwn i gyfrannu at y cost, hefyd darparwyd £30.7 miliwn gan Gomisiwn y Mileniwm, a £9.8 miliwn gan Gyngor Celfyddyd Cymru. Rhoddwyd £10 milwn arall gan Donald Gordon, dyn busnes o [[De Affrica]], a daeth gweddill yr arian angenrheidiol trwy gytundeb noddiant efo Cymdeithas Adeiladu'r Principality.<ref>[http://www.designbuild-network.com/projects/wales-millennium-centre/ Gwefan designbuild-network.com]</ref>


Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, ac yr ail rhan gan Tim Green a Keith Vince<ref>[http://www.designbuild-network.com/projects/wales-millennium-centre/ Gwefan designbuild-network.com]</ref>. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd darn cyntaf yr adaeilad - yn cynnwys [[Neuadd Hoddinott]] (gyda 350 o seddi) yn swyddogol yn Nhachwedd [[2004]] ac yr ail ddarn y prosiect ar 22 Ionawr [[2009]] .
 
 
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys [[Urdd Gobaith Cymru]], yr [[Academi Gymreig]] [[Opera Cenedlaethol Cymru]], [[Tŷ Cerdd]], [[Diversions - Cwmni Dawns Cymru]], [[Touch Trust]] a [[Hijinx]]. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis.