Canolfan Mileniwm Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nifer o ymwelwyr
B dur ar y to
Llinell 30:
 
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys [[Urdd Gobaith Cymru]], yr [[Academi Gymreig]] [[Opera Cenedlaethol Cymru]], [[Tŷ Cerdd]], [[Diversions - Cwmni Dawns Cymru]], [[Touch Trust]] a [[Hijinx]]. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis.
Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwâr. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws [[Cymru]]; porffor o [[Chwarel Penrhyn|Benrhyn]], glas o [[Chwarl Cwt-y-Bugail]], gwyrdd o [[Chwarel Nantlle]], llwyd o [[Chwarel Llechwedd]] a du o [[Chwarel Corris]]. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru.<ref>[http://www.designbuild-network.com/projects/wales-millennium-centre/ Gwefan designbuild-network.com]</ref>.
[[Delwedd:Ybae08LB.jpg|bawd|260px|Dur ar do'r adeilad]]
[[Delwedd:Ybae09LB.jpg|bawd|260px|Llechfaen aml-liw'r waliau]]