Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun yn bodoli
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
 
== Bywyd Cynnar ==
Elisabeth yw merch hynaf Y Tywysog Albert, Dug Efrog (yn hwyrach, Brenin Siôr VI) a'i wraig [[Elisabeth Bowes-Lyon]]. Ganwyd y Dywysoges Elisabeth ar y 21 Ebrill 1926 yn 17 Stryd Bruton, Mayfair, Llundain. Gafodd ei bedyddio yng ngapel preifat ym [[Palas Buckingham|Mhalas Buckingham]] gan [[Cosmo Lang]], [[Archesgob Efrog]], ar [[29 Mai]. Ei rhieni bedydd oedd ei Nainnain a'i Thaidthaid, Siôr V a Brenhines Mari,; ei Modrybionmodrybion y Dywysoges Mari a Lady Elphinstone,; y Dywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn; a'i nain (ar yr ochr ei fam) Cecilia Bowes-Lyon, Duges Strathmore a Kinghorne. Cafodd Elisabeth ei henw gan ei mam a'r Frenhines Alexandra a Brenhines Mari. Lilibet oedd Elisabeth yn cael ei galw ymysg ei theulu.
 
Fe fuodd Elisabeth yn agos i'w Thaidthaid, Siôr V, ac fe fuodd ei phresenoldeb yn help mawr iddo wella o'i salwch yn 1929. Ei chwaer oedd y Dywysoges Margaret a anwyd yn 1930. Cafodd y ddwy ohonyn nhw eu haddysg gartref gan Marion Crawford (neu "Crawfie"). Yn hwyrach, cyhoeddodd Marion Crawford fywgraffiad o fywydau'r chwiorydd yn y llyfr ''The Little Princesses''. Roedd y llyfr yn sgandal ac nid oedd y teulu yn hapus. Mae'r llyfr yn fanwl ac yn disgrifio hoffter Elisabeth at geffylau a chŵn ac yn disgrifio ymhellach fod gan Elisabeth agwedd gyfrifol. Dywedodd llawer o bobol eraill yr un peth. Disgrifiodd Winston Churchill y Dywsoges Elisabeth fel "cymeriad. Mae mwy o awdurdod amdani." Roedd ei chyfnither Margaret Rhodes yn ei disgrifio hi fel "merch hapus, synhwyrol sy'n ymddwyn yn dda".
 
Fel wyres y Brenin trwy ei thad, fe fuodd Elisabeth yn Dywysoges Brydeinig. Cafodd ei galw yn gyfreithlon fel Ei HuchelwraigHuchelder FrenhinolBrenhinol Y Dywysoges Elisabeth o Efrog. Fe fuodd yn drydydd yn llinell olyniaeth i'r goron, tu ôl ei ewythr Edward, Tywysog Cymru, a'i thad. Pan y ganwyd y Dywysoges Elisabeth, bu gan y cyfryngau ddiddordeb mawr ond nid oes unrhyw rheswm gredu y byddai'r Dywysoges Elisabeth yn Frenhines yn y dyfodol. Yn 1936, bu'r Brenin Siôr V farw. Yn hwyrach yn yyr un flwyddyn ymddiswyddodd y Brenin newydd fel Brenin ac aeth Elisabeth yn gyntaf yn llinell olyniaeth i'r goron. Newidwyd teitl y Dywysoges i "Ei UchelwraigHuchelder FrenhinolBrenhinol Y Dywysoges Elisabeth".
 
== Plant ==