Boddi Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Delwedd Protest
cyfeiriad
Llinell 12:
Arweiniodd [[Plaid Cymru]] y gwrthwynebiad i'r cynllun, gyda [[Gwynfor Evans]] yn arwain dirprwyaeth i gyfarfod Corfforaeth Lerpwl gan roi anerchiad grymus. Roedd nifer o'r genhedlaeth ifanc yn siomedig serch hynny nad oedd unrhyw weithredu uniongyrchol wedi bod ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]].
 
Cafwyd tair ymgais<ref>[http://scotsindependent.scot/oldsitearchive/scotind/features/singasang/gwent.htm scotsindependent.scot]; adalwyd 23 Medi 2016.</ref> i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd [[Emyr Llywelyn]], John Albert Jones ac [[Owain Williams]].
 
Er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn y gronfa, cwblhawyd yr adeiladu ym mis Awst 1965 a cafwyd seremoni agoriadol swyddogol iddi ym mis Hydref yr un flwyddyn.