Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categoriau
Llinell 23:
 
Yn ogystal â bod yn weithgar yn y mudiad cenedlaethol parhaodd yr Iarlles gyda'r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod. Cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], bu'n rhaid i [[Aelod Seneddol]] oedd wedi ei godi i swydd yn y Llywodraeth sefyll isetholiad i weld a oedd ei etholwyr yn fodlon iddo dreulio amser yn y swydd yn hytrach na rhoi ei holl egni i mewn i'w cynrychioli nhw. Roedd [[Winston Churchill]] yn Aelod Seneddol [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] etholaeth Gogledd Orllewin Manceinion; ym 1908 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a bu'n rhaid iddo sefyll isetholiad i gadarnhau ei benodiad. Gan fod Churchill yn groch yn erbyn caniatáu'r bleidlais i ferched bu'r swffragetiaid yn tarfu ar ei ymgyrch etholiadol. Roedd yr Iarlles Markievicz yn ei ddilyn o amgylch yr etholaeth mewn cerbyd hen ffasiwn ysblennydd yn cael ei dynnu gan bedwar ceffyl.<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4188785|title=Day Before Election - Evening Express|date=1908-04-23|accessdate=2016-03-19|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Collodd Churchill ei sedd.
[[File:Walking Wounded-Fianna (6034850472)Éireann Scouts engaged in field medical training 1914.jpg|thumb|Aelodau Fianna Éireann yn dysgu sut i drin clwyfau maes y gad]]
Ym 1909 sefydlodd Markievicz ''Na Fianna Éireann'', sefydliad sgowtiaid cenedlaetholgar para-filwrol a oedd yn dysgu bechgyn a merched yn eu harddegau sut i ddefnyddio arfau. Dywedodd [[Pádraig Pearse]] bod creu Fianna Éireann cyn bwysiced â chreu'r [[Gwirfoddolwyr Gwyddelig]] ym 1913.<ref>“I Remember The Countess” gan Ina Connolly Heron (daughter of James Connolly) – The Irish Press, 4 Chwefror 1953 [https://fiannaeireannhistory.files.wordpress.com/2015/11/ina-markievicz-article.jpg] adalwyd 19 Mawrth 2016</ref>