Gerallt Lloyd Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Bardd]] a aned yn "Nhŷ Uchaf", fferm ym mhlwyf Llandderfel [[Sarnau, Gwynedd|Sarnau]], [[Sir Feirionnydd]] (de [[Gwynedd]] heddiw) oedd '''Gerallt Lloyd Owen''' ([[6 Tachwedd]] [[1944]] – [[15 Gorffennaf]] [[2014]]).<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.independent.co.uk/news/obituaries/gerallt-lloyd-owen-renowned-welsh-poet-9662458.html |teitl=Gerallt Lloyd Owen: Renowned Welsh poet |gwaith=[[The Independent]] |awdur=[[Meic Stephens|Stephens, Meic]] |dyddiad=11 Awst 2014 |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref><ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/11019047/Gerallt-Lloyd-Owen-obituary.html |teitl=Gerallt Lloyd Owen obituary |gwaith=[[The Daily Telegraph]] |dyddiad=7 Awst 2014 |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref> Roedd yn un o brif feistri'r [[Cynghanedd|gynghanedd]] ac yn feuryn [[ymryson]] barddol Radio Cymru, [[Talwrn y Beirdd]].<ref name="Gwefan yr Academi">[http://www.academi.org/rhestr-o-awduron/i/129635/ Gwefan yr Academi]</ref>
 
==Bywyd cynnar ==
Gerallt oedd yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982), [[amaethwr]] a Swyddog Pla Cyngor Sir Feirionnydd ac yna [[Gwynedd]], a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, "Broncaereini", yn 1945 pan benodwyd Henry i'w swydd gyda Chyngor Sir Feirionnydd.
Derbyniodd ei addysg yn [[Ysgol Tŷ Tan Domen]] cyn mynd yn ei flaen i'r [[Coleg Normal, Bangor]].<ref name="Gwefan yr Academi" /> Ar ôl treulio cyfnod o bum mlynedd fel athro, sefydlodd [[Gwasg Gwynedd|Wasg Gwynedd]] ym 1972. i'w gyfrol gyntaf ddod allan ym [[1966]], ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi ''Cerddi'r Cywilydd'' ym [[1972]].
 
[[Llwyd o'r Bryn]] a gyflwynodd y gynghanedd iddo, ei athro barddol cyntaf, a gallai Gerallt gyfansoddi englyn cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen, [[Llandderfel]] i wella'i grefft.
 
Derbyniodd Gerallt ei addysg yn [[Ysgol Tŷ Tan Domen]]. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r [[cynghanedd|gynghanedd]] a darllen [[barddoniaeth]] ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i'r [[Coleg Normal, Bangor]] lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.<ref name="Gwefan yr Academi" />
 
Ar ôl treulio cyfnod o bum mlynedd fel athro, sefydlodd [[Gwasg Gwynedd|Wasg Gwynedd]] ym 1972.
 
==Ei waith llenyddol==
Er i'w gyfrol gyntaf, ''Deunaw Oed ei Ganiadau'' (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym [[1966]], ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi ''Cerddi'r Cywilydd'' ym [[1972]].<ref>Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein;] adalwyd 29 Medi 2016.</ref>
 
Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am [[Cymreictod|Gymreictod]] a phwyslais ar [[Diwylliant Cymru|etifeddiaeth y Cymry]] a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr [[awdl]] ''Cilmeri'' , am dranc [[Llywelyn ap Gruffudd]], a'r gerdd ''Fy Ngwlad'' (''Cerddi'r Cywilydd'') am yr [[Arwisgiad Tywysog Cymru|arwisgiad]] yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] yn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,