Gwersyll crynhoi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 53 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q152081 (translate me)
B teipo
Llinell 3:
'''Gwersyll crynhoi''' yw'r term a ddefnyddir am wersyll lle cedwir pobl yn garcharorion, fel rheol dan warchodaeth filwrol, heb eu bod wedi ei cael yn euog o drosedd gan lys barn. Fel rheol, fe'i defnyddir gan lywodraethau i garcharu gwrthwynebwyr gwleidyddol neu grwpiau y mae'r llywodraeth yn ei hystyried yn fygythiad, ar sail ethnig, grefyddol neu arall. Mae'n wahanol i [[Gwersyll difa|wersyll difa]], lle deuir a charcharorion yno yn unig i'w lladd.
 
DennyddiwydDefnyddiwyd gwersylloedd crynhoi gan lywodraeth [[Sbaen]] yn ystod [[Gwrthryfel Ciwba]] yn [[1898]], gan lywodraeth [[yr Unol Daleithiau]] yn ystod y rhyfel yn [[y Ffilipinau]] yn 1898-1901, a chan lywodraeth [[y Deyrnas Unedig]] yn erbyn y [[Boer]]iaid yn ystod [[Rhyfel De Affrica]] 1899-1902. Y bwriad oedd gwneud [[rhyfel gerila]] yn amhosibl trwy garcharu'r boblogaeth sifil oedd yn cefnogi'r ymladdwyr.
 
Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], denyddiodddefnyddiodd llywodraeth [[Natsïaidd]] [[yr Almaen]] wersylloedd crynhoi ar raddfa fawr. Y cyntaf i'w sefydlu ganddynt oedd [[Dachau (gwersyll crynhoi)|Dachau]] yn 1933. Roedd y mwyaf adnabyddus o wersylloedd y Natsiaid, [[Auschwitz]], yn wersyll crynhoi (Auschwitz I) ac yn wersyll difa (Auschwitz II). Gwersylloedd crynhoi adnabyddus eraill oedd [[Bergen-Belsen]], [[Buchenwald]], [[Flossenbürg (gwersyll crynhoi)|Flossenbürg]], [[Mauthausen (gwersyll crynhoi)|Mauthausen]] a [[Ravensbrück]].
 
Yn yr [[Undeb Sofietaidd]], carcherid gwrthwynebwyr gwleidyddol mewn gwersylloedd [[Gulag]].