Yr wyddor Ladin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
didolnod Tsieineeg a Choreeg using AWB
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 10:
'''Yr wyddor Ladin''', neu'r '''Wyddor Rufeinig''' yw'r wyddor fwyaf cyffredin yn y byd heddiw. Datblygodd o fersiwn orllewinol o'r [[Yr Wyddor Roeg|wyddor Roeg]], a elwid yr wyddor Gumeaidd, a datblygwyd hi i ffurfio'r [[Yr wyddor Etrwscaidd|wyddor Etrwscaidd]]. Mabwysiadodd [[y Rhufeiniaid]] 21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu [[Lladin]].
 
Yn ystod yr [[Oesoedd Canol]], addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.
 
[[Delwedd:Latin alphabet world distribution.svg|bawd|chwith|250px|Y gwledydd sy'n denyddio'r wyddor Ladin. Gwyrdd tywyll: fel gwyddor swyddogol; gwyrdd golau: gwyddor swyddogol ar y cyd â gwyddorau eraill.]]
Llinell 16:
Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd [[Romaneg]] o'r [[Yr wyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] i'r wyddor Ladin yn y [[18fed ganrif]]. Fe newidiodd [[Twrceg]] o'r [[Yr wyddor Arabeg|wyddor Arabeg]] i'r wyddor Ladin yn [[1928]] ac mae [[Hausa (iaith)|Hausa]] wedi newid hefyd.
 
Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn [[yr wyddor Gymraeg]], rhai ohonynt fel [[Ch]] neu [[Ll]] lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.
 
== Yr wyddor elfennol ==