Roxana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''Roxana''' ([[Bactreg]]: '''''Roshanak'''''; "seren fechan ddisglair" neu "goleuni"), yn dywysoges o [[Bactria]] ac yn wraig i [[Alecsander Fawr]]. Cafodd ei geni cyn [[341 CC]], ond does dim sicrwydd am yr union ddyddiad. Roedd hi'n ferch i uchelwr Bactriaidd o'r enw [[Oxyartes]], o [[Balkh]] yn Bactria (yn rhan o [[Ymerodraeth Persia]] ar y pryd, heddiw'n rhan o [[Affganistan]]), a phriododd ag Alecsander yn y flwyddyn [[327 CC]] ar ôl iddo ei dal ar ôl cipio chaer [[Craig Sogdia]]. Balkh oedd yr olaf o daleithiau Ymerodraeth Persia i ddisgyn i ddwylo Alecsander, ac roedd y briodas yn ymgais i gymodi [[satrap]]au Balkh i'w reolaeth, er bod y ffynonellau hynafol yn pwysleisio fod Alecsander, a oedd yn 29 oed erbyn hynny, mewn cariad â hi.
 
Yn ôl yr haneswyr a'r [[rhamant]]au diweddarach, cynhaliodd y brenin briodas rwysgfawr ar ben Craig Sogdia. Gwnaeth y paentiwr [[Groeg]]aidd [[Aetion]] baentiad enwog o'r olygfa a enillodd wobr iddo yng ngŵyl y gemau yn [[Olympia]]. Mae'r darlun ei hun ar goll ond daeth yn adanbyddusadnabyddus trwy ddisgrifiadau gan Rufeinwyr ac yn ddiweddarach byddai'n ysbrydoli'r paentiwr [[Botticelli]].<ref>Robin Lane Fox, ''Alexander the Great'' (1973; argraffiad newydd, Penguin 1986), tt. 312-14.</ref>
 
Dilynodd Roxana yr ymerodr ar ei gyrch yn [[India]] yn [[326 CC]]. Mae'n debyg iddi ddychwelyd trwy Affganistan a gogledd [[Iran]] gyda rhan o'r fyddin yn lle mynd gyda Alecsander a'i fyddin ar y daith anodd trwy dde [[Pacistan]] ac Iran. Rhoddodd enedigaeth i fab, [[Alexander IV o Facedon|Alexander IV]] Aegus, ar ôl marwolaeth ddisymwth Alecsander ym [[Babilon|Mabilon]] yn [[323 CC]]. Ond ar ôl marw Alecsander daeth Roxana a'i fab yn ysglyfaeth i'r cynllwynio gwleidyddol yn sgîl cwymp ac ymddatod ymerodraeth Alecsander. Yn ôl [[Plutarch]], llofruddiodd Roxana weddw arall y brenin, [[Stateira II]], a'i chwaer [[Drypteis]] (Pl. Alex. 77.4). Amddiffynwyd Roxana a'i fab gan [[Olympias]], mam Alecsander, ym [[Macedon]], ond cafodd hi ei hasasineiddio yn [[316 CC]] gan ganiatau i [[Cassander]] geisio'r deyrnas. Am fod Alexander IV Aegus yr unig etifedd cyfreithlon i'r ymerodraeth, gorchmynwyd Cassander iddo a'i fam Roxana gael eu llofruddio yn [[309 CC]].