Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|250px|Logo '''Academi''' Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r '''Academi''' fel y gelwir yn gyffredionol, yn 1959 gan Bobi Jones a Waldo Willia... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:36, 8 Awst 2007
Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y gelwir yn gyffredionol, yn 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg i gadarnhau y byddai awduron Cymraeg a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg eu cynnwys. Yn 1968, crewyd adran penodol i'r Iaith Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Mike Peters, ar y cyd gyda aelodau o’r Guild of Welsh Writers.
Mae'r Academi yn "Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru" ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith amryw o bethau, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Academi sydd hefyd yn gyfrifol am Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd.
Academi gyhoeddodd y Gwyddoniadur cyntaf yn y Gymraeg yn 2003, gyda chefnogaeth ariannol y Loteri.