David Charles III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
fformatio ac arddull
golygu'r tetun
Llinell 1:
Gweinidog gyda'r [[Methodistiaid Calfinaidd]] oedd '''David Charles III''' ([[23 Gorffennaf]] [[1812]] – [[13 Rhagfyr]] [[1878]]).
 
Fe'i ganwyd yn [[y Bala]], yn fab i Thomas Rice Charles a Maria ei wraig (ac yn wyr i [[Thomas Charles]]). Dechreuodd ei addysg yn y Bala ac yn [[y Waun]], ac wedi treulio peth amser yn ddisgybl i reithor [[Llanycil]], fe'i derbyniwyd i [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Goleg yr Iesu, Rhydychen]], yn 1831, a graddiodd yn B.A. yn 1835. Yna dychwelodd i Gymru, ac ar y cyd gyda'i frawd-yng-nghyfraith, [[Lewis Edwards]], aeth ati i gychwyn ysgol yn y Bala yn 1837 mewn llofft ty, ac yna yn 1839 mewn dau dy annedd yn ymyl y Capel Methodistaidd yn 1839. (Tri deg mlynedd wedi sefydlu'r ysgol hon, adeiladwyd cartref parhaol "[[Coleg y Bala]]", ac o fewn 20 mlynedd arall, hyfforddwyd 640 o weinidogion yr efengyl ynddi ar gyfer eglwysi a chapeli ardaloedd eang y Gymru wledig. Ordeiniwyd David Charles III i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1841, ac yn fuan iawn, sef 1842, fe'i penodwyd yn brifathro Coleg Trefecca, [[Talgarth]], Powys... Bu yno am 20 mlynedd...)
 
Yn ystod 1839 hefyd y priododd David ei wraig gyntaf, Kate Roberts o Gaergybi, ac fe'i hordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1841 a chael ei benodi yn brifathro Coleg Trefeca, [[Talgarth]], Powys. Bu yno am 20 mlynedd. Yna yn 1863 cafodd alwad i fod yn fugail eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercarn, sir Fynwy. Ar ól pum mlynedd yno, cymerodd ran gyda'r gwaith trefnu ar gyfer agor [[Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth|Coleg Prifysgol Cymru]] yn Aberystwyth yn 1872, ac wedi penodiad T. C. Edwards, ei nai, yn brifathro, ymddeolodd o'r swydd. Priododd ei ail wraig, Mary yn 1846, merch Hugh Jones o Lanidloes a gweddw Benjamin Watkins, a bu iddynt dri o blant. Ef hefyd oedd llywydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1869, ac yn ddiweddarach dychwelodd i fyw i ganolbarth Cymru yn [[Aberdyfi]]. Bu farw ar 13 Rhagfyr 1878, gan adael gweddw ac un ferch, ac f'ei claddwyd yn Llanidloes.
 
=== Ffynonellau: ===
* ''Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd'', xx, 28;
* ''Y Traethodydd'', 1893;
* D. E. Jenkins, ''Life of Thomas Charles'', Dinbych, 1908, iii, 645;
* Foster, ''Alumni Oxonienses''
{{Rheoli awdurdod}}