Hathor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

duwies yn Hen Aifft
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor Un o duwiesau mawr yr Hen Aifft oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Lla...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:38, 11 Awst 2007

Un o duwiesau mawr yr Hen Aifft oedd Hathor (neu Athyr), a gysylltid â'r Llwybr Llaethog. Roedd yr Groegiaid yn ei huniaethu ag Aphrodite, duwies serch ym mytholeg Roeg. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i Ra ac yn wraig i Horus, duw'r haul a brawd y dduwies Isis; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.

Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor

Cyfeirir ati hefyd fel y Fuwch fawr yn y nefoedd a greodd y byd, gan gynnwys Horus, ac a'i gynhaliai. Mewn canlyniad fe'i portreadir yn aml fel duwies gyda phen buwch neu gyda phen dynol corniog neu glustiau buwch. Roedd hi'n nerthu bodau dynol fel petasent ei phlant, gan roi iddyn nhw o'i llefrith i'w yfed; ceir lluniau ohoni yn bwydo brenhinoedd yr Aifft o'i bronnau.

Cysylltir Hathor â ffetish neilltuol yn ogystal, sef y sistrum. Roedd ei cherddoriaeth yn fod i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Yn ei theml fawr yn Dendera mae'r colofnau i gyd ar ffurf sistrums.

Hathor oedd prif amddiffynes a noddwr merched yn yr Hen Aifft. Fel duwies serch a hyfrydwch roedd hi'n boblogaidd iawn. Roedd hi'n feistres cerddoriaeth ac adloniant.

Ond yn ogystal â gofalu am y Byw gofalai am y Meirw fel "Brenhines y Gorllewin" sy'n croesawu eneidiau. Yn yr agwedd hon roedd hi'n gysylltiedig yn arbennig â necropolis Thebes.

Prif gysegrfan Hathor oedd eu theml yn Dendera, yn yr Aifft Uchaf rhwng Abydos a Luxor. Yno fe'i haddolid gyda'i fab Ihy "Canwr y Sistrum." Dethlid gwyliau crefyddol mawr yn Dendera. Y pwysicaf oedd i groesawu'r Flwyddyn Newydd, penblwydd Hathor.

Y tu hwnt i'r Aifft ei hun roedd Hathor yn cael ei haddoli yng Ngwlad Pwnt (Punt: Ethiopia efallai) ac felly fe'i gelwid yn "Feistres gwlad Pwnt"; mae'n bosibl mai o'r rhanbarth hono y daeth i'r Aifft. Yn y Sinai roedd hi'n cael ei haddoli dan yr enw "Meistres gwlad Mefket" ac yn Ffenicia fel "Arglwyddes Byblos".

Cyfeiriadau a darllen pellach

  • Margaret A. Murray, The Splendour that was Egypt (Llundain, 1963; sawl argraffiad ers hynny)
  • Sawl awdur, Egyptian Mythology (Paul Hamlyn, Llundain, 1966; sawl argraffiad ers hynny)