Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hathor"

Ychwanegwyd 21 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: 200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor Un o duwiesau mawr yr Hen Aifft oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Lla...)
 
B
[[Delwedd:Egypt.Hathor.jpg|200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor]]
Un o [[duwies]]au mawr yr [[Hen Aifft]] oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Llaethog]]. Roedd yry [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn ei huniaethu ag [[Aphrodite]], duwies [[serch]] ym [[mytholeg Roeg]]. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i [[Ra]], brenin y [[duw]]iau, ac yn wraig i [[Horus]], duw'r [[haul]] a brawd y dduwies [[Isis]]; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.
 
Cyfeirir ati hefyd fel y [[buwch|Fuwch]] fawr yn y nefoedd a greodd y byd, gan gynnwys Horus, ac a'i gynhaliai. Mewn canlyniad fe'i portreadir yn aml fel duwies gyda phen buwch neu gyda phen dynol corniog neu glustiau buwch. Roedd hi'n nerthu bodau dynol fel petasent ei phlant, gan roi iddyn nhw o'i llefrith i'w yfed; ceir lluniau ohoni yn bwydo [[brenhinoedd yr Aifft]] o'i bronnau.