Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hathor"

Ychwanegwyd 107 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
[[Delwedd:Egypt.Hathor.jpg|200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor]]
Un o [[duwies|dduwiesau]]au mawrmwyaf yr [[Hen Aifft]] oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Llaethog]]. Roedd y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn ei huniaethu ag [[Aphrodite]], duwies [[serch]] ym [[mytholeg Roeg]]. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i [[Ra]], brenin y [[duw]]iau, ac yn wraig i [[Horus]], duw'r [[haul]] a brawd y dduwies [[Isis]]; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.
 
Cyfeirir ati hefyd fel y [[buwch|Fuwch]] fawr yn y nefoedd a greodd y byd, gan gynnwys Horus, ac a'i gynhaliai. Mewn canlyniad fe'i portreadir yn aml fel duwies gyda phen buwch neu gyda phen dynol corniog neu glustiau buwch. Roedd hi'n nerthu bodau dynol fel petasent ei phlant, gan roi iddyn nhw o'i llefrith i'w yfed; ceir lluniau ohoni yn bwydo [[brenhinoedd yr Aifft]] o'i bronnau. Roedd ei haddolwyr yn credu mai llaeth yn llifio o'i bronnau oedd y Llwybr Llaethog.
 
Cysylltir Hathor â [[ffetis]] neilltuol yn ogystal, sef y ''sistrum''. Roedd ei cherddoriaeth yn fod i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Yn ei theml fawr yn [[Dendera]] mae'r colofnau i gyd ar ffurf ''sistrums''.
Ond yn ogystal â gofalu am y Byw gofalai am y Meirw fel "Brenhines y Gorllewin" sy'n croesawu eneidiau. Yn yr agwedd hon roedd hi'n gysylltiedig yn arbennig â [[necropolis]] [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]].
 
Prif gysegrfan Hathor oedd [[Teml Dendera|eu theml yn [[Dendera]], yn yr [[Aifft Uchaf]] rhwng [[Abydos]] a [[Luxor]]. Yno fe'i haddolid gyda'i fab [[Ihy]] "Canwr y ''Sistrum''." Dethlid gwyliau crefyddol mawr yn Dendera. Y pwysicaf oedd i groesawu'r Flwyddyn Newydd, penblwydd Hathor.
Y tu hwnt i'r [[Aifft]] ei hun roedd Hathor yn cael ei haddoli yng [[Pwnt|Ngwlad Pwnt]] (''Punt'': [[Ethiopia]] efallai) ac felly fe'i gelwid yn "Feistres gwlad Pwnt"; mae'n bosibl mai o'r rhanbarth hono y daeth i'r Aifft. Yn y [[Sinai]] roedd hi'n cael ei haddoli dan yr enw "Meistres gwlad Mefket" ac yn [[Ffenicia]] fel "Arglwyddes [[Byblos]]".