Cerddoriaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 13:
==Cerddoriaeth boblogaidd==
[[Delwedd:Tebotpiws3.jpg|150px|bawd|''Rhywun wedi dwyn fy nhrwyn'' gan [[Y Tebot Piws]] ([[1971]])]]
Ceir [[cerddoriaeth boblogaidd]] o bob math yn y Gymraeg, a ddechreuodd gyda [[canu gwlad]] yn y [[1960au]] ond a ymledodd i gynnwys canu roc a phop o ddiwedd y ddegawd honno ymlaen. Mae enwau mawr o'r Oes Aur yn cynnwys [[Meic Stevens]], [[Geraint Jarman]] (a'r Cynganeddwyr), [[Bryn Fôn]], [[Edward H. Dafis]], [[Geraint Lovegreen]], [[Y Tebot Piws]] a [[Bob Delyn a'r Ebillion]].
 
Yn Saesneg cafwyd grwpiau fel [[Amen Corner]] ac yn fwy diweddar y [[Manic Street Preachers]] a'r [[Super Furry Animals]] (band sy'n canu yn y Gymraeg yn ogystal).
 
Mae bodolaeth [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]] wedi bod yn bwysig iawn i alluogi cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa. Yn Saesneg mae [[BBC Radio Wales|Radio Wales]] wedi bod yn llwyfan bwysig hefyd. Yn ogystal mae [[S4C]] yn cynnig lle i gerddoriaeth Gymraeg, er iddo gael ei feirniadu gan rai bobl am fod yn geidwadol a "chanol y ffordd."