Dylunio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Caiff '''dylunio''', ei gysidro fel arfer ym maes arlunio, peirianneg, pensaerniaeth, a pethau eraill tebyg creadigol. Mae dylunio fel arfer yn golygu dylunydd yn... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:05, 16 Awst 2007
Caiff dylunio, ei gysidro fel arfer ym maes arlunio, peirianneg, pensaerniaeth, a pethau eraill tebyg creadigol. Mae dylunio fel arfer yn golygu dylunydd yn cysidro elfennau estheteg, gweithrediad, a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am ymchwil, meddwl, modelu, addasu, ac ail-ddylunio helaeth.
Athroniaeth Dylunio
Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddalaladwy. Does dim iaith unedig na corff unedig ar gyfer dylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.
Mae nifer di ddiwedd o athroniaethau tywys dylunio a gwerthau dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol. [1] Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynnu targedi. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau, fel arfer ar gyfer tywys dylunio; er, gall hyn ddadlau gyda'r targedau syml a gall ddilyn at gwestiynnu pwrpas y dylunio, yn aml mae hyn yn gwella safon y dylunio drost amser hir.
Y Broses o Ddylunio
Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau golynol:
- Dylunio Cyn-cynhyrchu
- Briff Dylunio - datganiad o dargedau'r dylunio
- Analeiddio - Analeiddio'r targedau'r dylunio presennol
- Ymchwil - Ymchwilio'r atebion dylunio yn y maes ac mewn meysydd eraill â thargedau tebyg
- Penodi - Penodi anghenion yr ateb dyluniadol
- Datrys Problemau - Dyniadoli a dogfennu'r atebion dyluniadol
- Cyflwyniad - Cyflwyno'r atebion dyluniadol
- Dylunio yn ystod Cynhyrchu
- Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
- Gweithrediad - Cyflwyno'r ateb dyluniadol i'r amgylchedd terfynnol
- Gwerthfawrogi a Chanlyniadu - Crynodeb o'r broses a'r canlyniadau, gan gynwys beirniadaeth a chynigion am wellhad
- Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.
Diffinio Dylunio
Gall dylunio'n aml ei gysidro i fod yn ffurf fwy llym o Arlunio, neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gweneir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywyn heblaw'r arlunydd sy'n penderfynnu'r pwrpas. Mewn Graffeg, gwneir y gwahaniaethu yn aml rhwng Celf gain a Chelf masnachol.
Gall peiriannu'n aml ei gysidro i fod yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gall dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar disgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaenau gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynnu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.
Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddyluwr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.
Gweler Hefyd
Disgyblaethau Dylunio
Gall sawl o'r rest hefyd eu cysidro yn Ddylunio Masnachol. Cymhwysiad |
Cyfarthrebu |
Corfforol |
Cyfeirnodau
- ↑ Holm, Ivar (2006). Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.