Ras yr Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
[[File:Ras yr Iaith 2014 Castellnewydd Emlyn.jpg|thumb|300px|Ras yr Iaith 2014 yn mynd drwy [[Castellnewydd Emlyn|Gastellnewydd Emlyn]].]]
==Ras 2014==
Dechreuodd Ras 2014 yn Senedd-dy Owain Glyndŵr ym [[Machynlleth]] gan orffen yn [[Aberteifi]].<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-mid-wales-27937141 Ras yr Iaith: Language run starts in Machynlleth] Gwefan BBC Wales 20.6.2014</ref> Noddwyd baton Ras 2014 gan fudiad [[Menter Iaith|Mentrau Iaith Cymru]] a'i chreu gan [[Ysgol Penweddig]], Aberystwyth. Bu [[Dewi 'Pws' Morris]] yn arwain gan roi annogaeth a chyngor o Fan y Ras i'r rhedwyr.
 
Noddwyd cilomedrau'r Ras gan amrywiaeth eang o noddwyr yn talu £50 gan gynnwys busnesau, ysgolion, capeli, clybiau a chyrff cyhoeddus. O'r arian nawdd a godwyd gan noddwyr a rhedwyr y Ras llwyddwyd i ddosbarthu gwerth £4,000 o grantiau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd lle rhedwyd y Ras.
 
==Ras 2016==
Cynhaliwyd y Ras dros 3 diwrnod gyda chyd-weithrediad agos sawl un o Fentrau Iaith Cymru gyda Siôn Jobbins yn cydlynu. Rhedwyd drwy ganol trefi ond nid rhyngddynt. Cafwyd cefnogaeth Dewi Pws Morris a bu sawl person amlwg yn rhedeg a chefnogi gan gynnwys y cyflwynydd teledu a dyfarnwr, Owain Gwynedd a redodd yr holl o'r diwrnod gyntaf; y cyflwynydd teledu a rhedwraig profiadol, [[Angharad Mair]] yng Nghaerfyrddin.
 
Bu cyngherddau fin nos yng nghastell Aberteifi i ddathlu'r Ras (nos Iau 7fed) ac yn Nhy Newton, Llandeilo (nos Wener 8fed).
 
Diwrnod Un - Dydd Mercher 6 Gorffennaf: [[Bangor]] - [[Bethesda]] - [[Llanrwst]] - [[Blaenau Ffestiniog]] - [[Y Bala]] - [[Dolgellau]] - [[Machynlleth]]. (nodwyd Betws y Coed ar y llenyddiaeth, ond ni redwyd drwy'r pentref am resymau diogelwch).
 
Diwrnod Dau - Dydd Iau 7 Gorffennaf: [[Aberystwyth]] - [[Tregaron]] - [[Llanbedr Pont Steffan]] - [[Aberaeron]] - [[Ceinewydd]] - [[Llandysul]] - [[Castellnewydd Emlyn]] - [[Aberteifi]].
 
Diwrnod Tri - Dydd Gwener 8 Gorffennaf: [[Crymych]] - [[Arberth]] - [[Dinbych y Pysgod]] - [[San Clêr]] - [[Caerfyrddin]] - [[Rhydaman]] - [[Brynaman]] - [[Llanymddyfri]] - [[Llandeilo]].
 
==Cyfeiriadau==