Esgob Tyddewi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 4:
Yn yr [[11eg ganrif]] roedd yr esgobion [[Sulien]] a'i fab [[Rhygyfarch ap Sulien]] yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y ''[[Vita Davidiis]]'' ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth [[Archesgob Caergaint]]. Yn [[1176]], enwebwyd [[Gerallt Gymro]] yn esgob, ond gwrthododd y brenin [[Harri II o Loegr]] ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr esgobaeth, ymgyrch a gafodd gefnogaeth [[Llywelyn Fawr]].
Yn ystod ymrysonau crefyddol yr [[16eg ganrif]], carcharwyd yr esgob [[Robert Ferrar]] am [[heresi]] gan [[Mari I o Loegr|Mari Tudur]], ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] ar [[30 Mawrth]] [[1555]].
Yr esgob presennol yw [[Carl N Cooper]].
|