Makran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Ardal anial yn ne-orllewin Pacistan a de-ddwyrain Iran yw '''Makran'''. Er nad yn anialwch go iawn, mae'n un o'r lleoedd poethaf a sychaf ar gyfandir Asia. Mae'n gorw...
 
ehangu
Llinell 1:
Ardal anial yn ne-orllewin [[Pacistan]] a de-ddwyrain [[Iran]] yw '''Makran''' ([[Urdu]]/[[Perseg]]: مکران). Er nad yn [[anialwch]] go iawn, mae'n un o'r lleoedd poethaf a sychaf ar gyfandir [[Asia]]. Mae'n gorwedd yn bennaf yng ngwaelod nhalaith [[BaluchistanBalochistan]] ym Mhacistan, gyda'r rhan arall dros y ffin yn Iran, ar lan [[Môr Arabia]] a [[Gwlff Oman]].
 
[[Delwedd:Makran2.jpg|300px|bawd|Golygfa ar y briffordd newydd trwy Makran]]
Mae'r arfordir yn cynnwys nifer o faeau ond mae'n dywodlyd a chreigiog ac ychydig iawn o afonydd sydd yno. Mae bryniau Makran yn cael eu cyfrif fel estyniad olaf cadwyn hir yr [[Hindu Kush]].
 
Mae'r gwastadedd arfordirol cyfyng yn codi'n gyflym i'r bryniau. O'r 1,000 km o arfordir, mae tua 750 km yn gorwedd ym Mhacistan. Ychydig iawn o bobl sy'n byw ym Makran, gyda'r mwyafrif yn byw mewn cyfres o borthladdoedd bychain fel [[Chah Bahar]], [[Gwatar]], [[Jiwani]], a [[Gwadar]], [[Pasni]] a [[Ormara]].
 
Yr ymadrodd Perseg ''Mahi khoran'', "bwytawyr pysgod" (''Mahi'' = pysgod + ''khor'' = bwyta) yw tarddiad yr enw Makran, yn ôl pob tebyg. Wrth adrodd hanes [[Alcsander Fawr]] (gweler isod), cyfeiria haneswyr Groeg at y ffaith fod pbol yt ardal yn byw ar bysgod ac yn eu bwyta'n amrwd.
 
Mae Makran yn adnabyddus yn bennaf i haneswyr am fod [[Alecsander Fawr]], brenin [[Macedon]] a goregynwyr [[Ymerodraeth Persia]], wedi ei chroesi ar ddiwedd ei daith trwy [[Iran]] ac [[Affganistan]] a ddaeth ag ef i ogledd-orllewin [[is-gyfandir India]]. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Affganistan i warchod y taleithiau a goncweriwyd ganddo yno, dychwelodd Alecsander a rhan arall ei fyddin i'r [[Dwyrain Canol]] trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd Makran. Ceisiodd y llynges dan arweiniad [[Perdiccas]], a adeiladwyd gan filwyr Alecsander ar [[Afon Indus]], gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddianus. Pan gyrhaeddodd y fyddin [[Susa]], dim ond rhai miloedd o'r milwyr oedd ar ôl.
Llinell 8 ⟶ 12:
[[Categori:Daearyddiaeth Pakistan]]
[[Categori:Daearyddiaeth Iran]]
[[Categori:Balochistan]]
 
[[en:Makran]]