Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Chalcolithig"

Ychwanegwyd 200 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
{{Cyfnodau cynhanes}}
Mae cyfnod y '''Chalcolithig''' ([[Groeg]]: ''khalkos'' + ''lithos'' 'carreg [[copr|gopr]]') neu '''Oes y Copr''' (a elwir hefyd yn '''Eneolithig''' ('''Aeneolithig''')), yn gam yn natblygiad diwylliant y [[dynolryw|ddynolryw]] a welodd ymddangosiad graddol yr [[offeryn|offer]] [[metel]] cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer [[carreg]]. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan [[archaeoleg]]wyrarchaeolegwyr yn amrywio'n fawr.
 
Yn draddodiadol mae llenyddiaeth [[archaeoleg]] Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y [[Dwyrain Canol]] ar y llaw arall yn ei ddenfyddioddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn [[Ewrop]] i [[Oes yr Efydd]] yn llawer mwy sydyn. (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).
 
Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y [[Neolithig]] (Oes y Cerrig) ac [[Oes yr Efydd]], sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer [[Cynhanes]]. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda [[tun|thun]] a metelau eraill yn gynnar iawn,; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.
 
Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain [[Ewrop]] a gorllewin a chanolbarth [[Asia]] (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i denfyddirdefnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid [[yr Amerig]] yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.
 
O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]] yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de [[Turkmenistan]] a gogledd [[Iran]], sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.<ref> Parpola, Asko: ''Study of the Indus Script'', tud. 2, 3.</ref>