Pedryn drycin Leach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→top: iw i en, replaced: → (3) |
cyfuno |
||
Llinell 34:
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn ''O. leucorhoa'', sef enw'r rhywogaeth.<ref>[http://avibase.bsc-eoc.org/avibase.jsp?lang=EN&pg=home Gwefan Avibase;] adalwyd 3 Hydref 2016.</ref> Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng [[Gogledd America|Ngogledd America]], [[Ewrop]], [[Affrica]] ac [[Awstralia]].
Fe'i gwelir ar arfordir [[Cymru]] hefyd. Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.
Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhannau gogleddol [[Cefnfor Iwerydd]] a'r [[Cefnfor Tawel]], fel rheol gannoedd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ceir y nifer fwyaf yn nythu ar [[Ynys Baccalieu]] yn nwyrain [[Canada]], lle mae tua 3 miliwn o barau. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.
Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi [[gwylan (aderyn)|gwylanod]] ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn ychydig yn fwy na'r [[Pedryn Drycin]], ac mae'r fforch yn y gynffon yn gymorth i'w wahaniaethu oddi wrth y rhywogaeth yma.
Nid yw'n nythu o gwmpas arfordir [[Cymru]], ond gellir gweld cryn nifer yn yr hydref oddi ar yr arfordir gogleddol ambell flwyddyn, pan mae'r adar yn symud tua'r de.
<!--Cadw lle4-->
|