Oes y Seintiau yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Parhaodd dylanwad y Rhufeiniaid hyd yn oed ar ôl i'r milwyr adael. Mae carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys [[Penmachno]] sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffhau gwr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel ''Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati'', neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" ac ynad (''magistratus'') yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig, yng Ngwynedd o leiaf, am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
 
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi mwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle roedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas.