Oes y Seintiau yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Parhaodd dylanwad y Rhufeiniaid hyd yn oed ar ôl i'r milwyr adael. Mae carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys [[Penmachno]] sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffhau gwr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel ''Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati'', neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" ac ynad (''magistratus'') yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig, yng Ngwynedd o leiaf, am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
 
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi mwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle roedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain mewn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin mae'r arysgrifau mewn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
 
Daeth [[Cristnogaeth]] Cymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd. Ymhlith y seintiau enwocaf wrth gwrs mae [[Dewi Sant]] a [[Teilo|Teilo Sant]].