Ffa Coffi Pawb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huwbwici (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ffurfiwyd '''Ffa Coffi Pawb''' ynghanol y [[1980au]] gan [[Gruff Rhys]] a [[Rhodri Puw]]. Ymunodd [[Dewi Emlyn]] a [[Dafydd Ieuan]] yn <nowiki>diwedd</nowiki>arach.
 
Buont yn recordio caneuon yng nghartref Rhodri Puw am gyfnod, ar offer stereo cartref. Wedi mynychu cyfarfodydd Pop Positif - cyweithfa cerddorol a sefydlwyd ym [[Bangor|Mangor]] gan [[Rhys Mwyn]] - daethont i gysylltiad a [[Gorwel Owen]], [[Recordiau Ofn]]. Rhyddhawyd fersiwn o'u can ''Octopws'' ar dap aml-gyfrannog Pop Positif. Arweiniodd y recordiad yma at ffrae gyda grwp lleol amlwg arall, ''Tynal Tywyll'', wedi i Nathan, gitarydd y grwp hwnw, ail-recordio rhan o ''Octopws''. Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. ''Dalec Peilon'' oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar [[Recordiau Huw]] (label [[Huw Gwyn]]) ym [[1988]]. Dilynwyd hon gan ''Clymhalio'', a ryddhawyd ar [[Ankst]] ym [[1991]], a wedyn ''Hei Vidal'' ym [[1992]].
 
Dros y cyfnod yma, datblygodd y grwp ogrŵp ysgrifennu caneuon arborfol, nid yn anhebyg i [[Jesus and Mary Chain]], i ysgrifennu caneuon pop gyda naws [[1970au|70au]]. Chwaraeodd y grwpgrŵp eu gig olaf yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993|Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, ym 1993]]. Cafodd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb "Ffa Coffi Pawb am byth" ei ryddhau ar label Placid Casual yn [[2004]]. Aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ymlaen i ffurfio'r ''[[Super Furry Animals]]''. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda ''[[Psycho VII]]'' am gyfnod, a wedyn ''[[Gorky's Zygotic Mynci]]''. Mae Dewi Emlyn yn gweithio gyda'r Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a sawl band arall. Mae Gruff Rhys yn rhyddhau ei record solo gyntaf - sydd wedi ei chynhyrchu gan Gorwel Owen - ym mis [[Ionawr]] [[2005]].
 
[[Category:Bandiau Cymreig]]