Paulinus Aurelianus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Sant Cymreig o ddiwedd y 5ed ganrif oedd '''Paulinus Aurelianus''', a fu'n weithgar yn bennaf yn Llydaw. Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o [[Landévenne...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o [[Landévennec]] yn Llydaw. Dywedir ei fod yn fab i bendefig o'r enw Perphirius. Bu'n astudio yn ysgol [[Illtud]] yn [[Llanilltud Fawr]], lle roedd [[Dewi]], [[Samson (sant)|Samson]] a [[Gildas]] yn astudio ar yr un pryd. Aeth i fyw fel meudwy yn [[Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin]] pan oedd yn 16 oed, yna aeth i "Gaer Banhed" yng [[Cernyw|Nghernyw]], ac yn nes ymlaen symudodd i Lydaw.
 
Ef a sefydlodd esgobaeth [[Kastell-Paol]] ([[Ffrangeg]]: ''St. Pol-de-Léon''), a bu'n gweithio yn Llydaw hyd ei farwolaeth ar Ynys Batz. Mae ei hanes ef wedi ei gymysgu i raddau a hanes "Paulinus" arall, [[Peulin]], a chred rhai ysgolheigion mai'r un yw'r ddau. Ymddengys, fodd bynnag, fod Paulinus Aurelianus ychydig yn iau na Pheulin.
 
Mae ganddo ddau ddydd gŵyl, [[12 Mawrth]] a [[10 Hydref]].