Llanbadarn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cys all
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Pentref ar gyrion tref [[Aberystwyth]] yw '''Llanbadarn Fawr'''.
 
Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i sant [[Padarn]], yn un nodedig. Roedd y [[clas]] yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan [[Sulien]] (c. 1010 - 1091) a'i fab [[Rhygyfarch ap Sulien]]. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd [[Gerallt Gymro]] a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn [[1188]], er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn [[1257]] yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Mae gan [[Dafydd ap Gwilym]] gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytach na'r gwasanaeth.
 
Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth ([[Coleg Llyfrgellwyr Cymru]] gynt) a'r adran [[Amaethyddiaeth]]. Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms.