Theodoric Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
trwsio dolenni
Llinell 1:
[[Image:RavennaMausoleum.jpg|thumb|220px|Mawsoleum Theodoric yn Ravenna.]]
 
Roedd '''Theodoric Fawr''' ([[454]] - [[Awst 30 Awst]], [[526]]), [[Lladin]]: '''Flavius Theodoricus''', yn frenin yr [[Ostrogothiaid]] ([[488]]-526), yn rheolwr [[Yr Eidal]] ([[493]]-526), ac yn rheolwr y [[Visigothiaid]] ([[511]]-526).
 
Ganed Theodoric yn 454 ar lannau'r [[Neusiedler See]] ger [[Carnuntum]], yn fab i [[Theodemir]], brenin yr Ostrogothiaid. Pan oedd yn fachgen gyrrwyd ef i [[Caergystennin|Gaergystennin]] fel gwystl, wedi i'r Ostrogothiaid wneud cytundeb a'r [[Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]], [[Leo I (ymerawdwr)|Leo]]. Bu'n byw yno am flynyddoedd, gan gael ei benodi'n ''[[magister militum]]'' (Meistr y Milwyr) yn 483, ac yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn 484. Dychwelodd at yr Ostrogothiaid yn fuan wedyn, a daeth yn frenin arnynt yn 488.
 
Gwnaeth Theodoric gytundeb a'r Ymerawdwr Bysantaidd [[Zeno]] i ymosod ar yr Eidal, lle roedd [[Odoacer]] yn frenin. Enillodd Theodoric fuddugoliaethau ym mrwydrau Isonzo (489), Verona (489) ac Adda (490), ac yn 493 cipiodd ddinas [[Ravenna]]. Ildiodd Odoacer, a lladdwyd ef gan Theodoric yn bersonol.