Theodoric Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
trwsio dolenni
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed Theodoric yn 454 ar lannau'r [[Neusiedler See]] ger [[Carnuntum]], yn fab i [[Theodemir]], brenin yr Ostrogothiaid. Pan oedd yn fachgen gyrrwyd ef i [[Caergystennin|Gaergystennin]] fel gwystl, wedi i'r Ostrogothiaid wneud cytundeb a'r [[Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]], [[Leo I (ymerawdwr)|Leo]]. Bu'n byw yno am flynyddoedd, gan gael ei benodi'n ''[[magister militum]]'' (Meistr y Milwyr) yn 483, ac yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn 484. Dychwelodd at yr Ostrogothiaid yn fuan wedyn, a daeth yn frenin arnynt yn 488.
 
Gwnaeth Theodoric gytundeb a'r Ymerawdwr Bysantaidd [[Zeno (ymerawdwr)|Zeno]] i ymosod ar yr Eidal, lle roedd [[Odoacer]] yn frenin. Enillodd Theodoric fuddugoliaethau ym mrwydrau Isonzo (489), Verona (489) ac Adda (490), ac yn 493 cipiodd ddinas [[Ravenna]]. Ildiodd Odoacer, a lladdwyd ef gan Theodoric yn bersonol.
 
Mewn theori roedd Theodoric yn rheoli'r Eidal ar ran yr Ymerodraeth Fysantaidd, ond yn ymarferol roedd yn frenin annibynnol. Gwnaeth gynghrair a'r [[Ffranciaid]] a phriododd Audofleda, chwaer [[Clovis I]]. Yn 511 daeth yn reolwr teyrnas y Fisigothiaid yn [[Sbaen]] a de [[Gâl]], lle roedd ymladd wedi bod rhwng hawlwyr yr orsedd ers i Alaric II gael ei ladd ym mrwydr Vouillé yn [[507]]. Diorseddodd Theodoric yr hawliwr Gesaleic, a gwnaeth ei ŵyr ei hun, Amalaric, mab Alaric a Tindigota, merch Theodoric, yn frenin. Theodoric fu'n rheoli'r deyrnas ar ran Amalaric hyd ei farwolaeth, pan ddaeth Amalaric yn frenin annibynnol.