Samson (sant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
buchedd
Llinell 1:
Sant o Gymru a ymsefydlodd yn [[Llydaw]] oedd '''Samson''' (c. [[485]] — c. [[565]]), [[Llydaweg]]:'''Samzun'''. Mae'n un o [[Saith Sant-sefydlydd Llydaw]].
 
Ceir buchedd gynnar i Samson, y ''Vita Sancti Samsonis'', a ysgrifennwyd rywbryd rhwng [[610]] ac [[820]]. Dywedir ei fod yn fab i Amwn o [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] ac Anna o [[Gwent|Went]]. Cafodd ei addysgu gan sant [[Illtud]] yn [[Llanilltud|Llanilltud Fawr]], a daeth sant [[Dyfrig]] yno i'w ordeinio yn ddiacon ac yn ddiweddarch yn offeiriad. Treuliodd amser ar [[Ynys Bŷr]] ym mynachlog Pŷr ei hun, a daeth yn abad yno wedi marwolaeth Pŷr,
 
Teithiodd i [[Iwerddon]], lle mae eglwysi wedi eu cysegru iddo yn [[Ballygriffin]] ger [[Dulyn]] ac yn [[Ballysamson]]. Dychwelodd i Ddyfed i fyw fel meudwy am gyfnod, a chysegrodd Dyfrig ef yn esgob ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr. Gellir rhoi dyddiad pendant i'r digwyddiad yma o'r manylion yn ei fuchedd, sef [[22 Chwefror]] [[521]]. Treuliodd rai blynyddoedd yng [[Cernyw|Nghernyw]] cyn symud i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn [[Dol]]. Dywedir i sant [[Teilo]] ymweld ag ef yma yn [[547]], wedi iddo ffoi o Gymru rhaf [[y Fad Felen]].