Drôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Drôns sifil: Hexarocopter
Llinell 14:
Mae'r ''Tadiran Mastiff'', a gynhyrchwyd gyntaf yn 1973 gan fyddin [[Israel]] wedi'u defnyddio'n helaeth gan gynnwys yn 1982 yn ystod Rhyfel Libanus; ac wrth i dechnoleg ddatblygu maen nhw wedi defnyddio'r MQ-1 Predator yn helaeth.<ref name="indispensable">Finn, Peter, "Drones, now indispensable in war, began life in garage", ''[[Washington Post]]'', reprinted in ''[[Japan Times]]'', 27 December 2011, p. 6.</ref>
 
Erbyn==Drôns 2015 roedd technoleg y drôns hyn wedi gwella'n aruthrol, a gellid prynu hofrennydd bychansifil==ôan (25cm) dros y cownter am oddeutu £80. Roedd eraill, gyda chamera gyda chydraniad uchel yn costio £2,000. Maent yn cael eu defnyddio ar gyfer nifer fawr o ddigwyddiadau fel ffilmio Chwaraeon Olympaidd yn Sochi yn 2014, yn enwedig y sgïo. Defnydd arall iddynt yw archwilio adeiladau anhygyrch e.e. fe'u defnyddiwyd gan yr [[Eglwys yng Nghymru]], mewn prosiect i archwilio tyrrau a thoeau eglwysi Llandaf a Llanelwy.<ref>[http://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/news/2015/02/dronaun-helpu-i-gadw-llygad-ar-waith-trwsio-toeau/ Gwefan yr [[Eglwys yng Nghymru]];] adalwyd 17 Mawrth 2015</ref>
==Drôns sifil==
[[Delwedd:Hexacopter Multicopter DJI-S800 on-air credit Alexander Glinz.jpg|bawd|[[Amrodor|Hecsrodor]], sef math o [[hofrennydd]]: y Multicopter DJI S800 a ddefnyddir i dynnu lluniau]]
Erbyn 2015 roedd technoleg y drôns hyn wedi gwella'n aruthrol, a gellid prynu hofrennydd bychan (25cm) dros y cownter am oddeutu £80. Roedd eraill, gyda chamera gyda chydraniad uchel yn costio £2,000. Maent yn cael eu defnyddio ar gyfer nifer fawr o ddigwyddiadau fel ffilmio Chwaraeon Olympaidd yn Sochi yn 2014, yn enwedig y sgïo. Defnydd arall iddynt yw archwilio adeiladau anhygyrch e.e. fe'u defnyddiwyd gan yr [[Eglwys yng Nghymru]], mewn prosiect i archwilio tyrrau a thoeau eglwysi Llandaf a Llanelwy.<ref>[http://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/news/2015/02/dronaun-helpu-i-gadw-llygad-ar-waith-trwsio-toeau/ Gwefan yr [[Eglwys yng Nghymru]];] adalwyd 17 Mawrth 2015</ref>
 
Caiff drôns sifil eu defnyddio'n bennaf er mwyn cadw costau'n isel, neu o dan amgylchiadau peryglus e.e. i weld y tu mewn i [[llosgfynydd|losgfynydd]] neu adeilad dan warchae arfog. Mae heddlu'r India a'r Unol Daleithiau yn eu defnyddio'n rheolaidd.
 
Yn Hydref 2016 dechreuwyd danfon gwaed ar gyfer ei drallwyso gan feddygon yn [[Rwanda]] ar gyfandir [[Affrica]]. Mae'r drôns hyn yn adain-galed (''fixed wing'') a gallant deithio hyd at 75km i ffwrdd ac yn ôl (cyfanswm y daith: 150km (93 milltir). Maent yn ddibynnu ar GPS i ganfod y lleoliad. Cant eu lansio gan sbring ar gledr tua 4 metr, ac mae nhw'n glanio ar glustog tua 4 wrth 4 metr. Gellir eu defnyddio sawl tro ar ôl ei gilydd, wedi newid y batri sydd ynddynt. Er mwyn osgoi awyrennau, mae nhw'n hedfan o dan 152m (500tr).
 
==Rhai gwledydd==