Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Bardd Cymreig oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. 1268-1283<ref>http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol...
 
ehangu
Llinell 1:
Bardd [[CymraegCymry|Cymreig]] oedd '''Bleddyn Fardd''' (fl. [[1268]]-[[1283]]<ref>http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru</ref>), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd yry galargerddgalargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], sydd wedi eieu gofnodicofnodi yn llawysgrif [[Llawysgrif Hendregadredd]], fel gweddill y testunau.
 
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai [[Dafydd Benfras]] oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn [[pencerdd|bencerdd]] i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
==Cyfeirnodau==
 
<references/>
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith [[awdl]] a saith cadwyn [[englyn]]ion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd [[marwnad|farwnadau]] i Ddafydd Benfras, [[Goronwy ab Ednyfed]] ([[distain]] Gwynedd) a'i fab [[Hywel ap Goronwy]]. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i [[Rhys ap Maredudd ap Rhys|Rys ap Maredudd ap Rhys]].
 
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] ac [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn|Owain Goch]]. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua [[1283]].
 
Ceir yn ogystal [[marwysgafn]] gan y bardd ar ei wely angau.
 
==Llyfryddiaeth==
*Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn ''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
 
==Dolenni allanol==
*[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLED-FAR-1268.html Bywgraffiad Bleddyn Fardd ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
 
 
{{Beirdd y Tywysogion}}
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]