Llyn Syfaddan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig [[Penhwyad]]. Yma hefyd ceir [[crannog]], sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn [[Iwerddon]] a'r [[Alban]]. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y [[9fed ganrif]].
 
Adroddir chwedl am y llyn gan [[Gerallt Gymro]], a ddywed fod traddodiad y byddai Adar Syfaddan yn canu pan fyddai gwir dywysog [[Deheubarth]] yn gorchynyn iddynt. Yn ôl GralltGerallt, roedd [[Gruffudd ap Rhys]] yn cerdded ar lan y llyn yng nghwmni dau arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]], yn y cyfnod pan oedd y Normaniaid wedi cymeryd meddiant o bron y cyfan o Ddeheubarth. Gorchmynodd y ddau Norman i'r adar ganu heb lwyddiant, ond ar orchymyn Gruffudd codasant i'r awyr a chanu.
 
Mae hefyd draddodiad am dref wedi ei boddi dan ddyfroedd y llyn fel cosb am ei phechodau.