Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Symffoni"

Ychwanegwyd 2 feit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Bot: Migrating 76 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q9734 (translate me))
Darn [[cerddoriaeth glasurol]] Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw '''symffoni'''. Datblygodd y symffoni [[clasur|glasurol]] o ganol y [[18fed ganrif]] ymlaen yn nwylo [[cyfansoddwr|cyfansoddwyr]] fel [[Joseph Haydn]] a [[Mozart]]. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf [[sonata]], yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn ''[[minuet]]'' a ''[[trio]]'', a'r pedwerydd yn gyflym.
 
Ymestynodd [[Beethoven]] ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu [[corws]] a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r [[Rhamantiaeth|Mudiad Rhamantaidd]] yn y [[19eg ganrif]] a chyfansoddwyr fel [[Schubert]], [[Schumann]], [[Johannes Brahms]], [[Mendelssohn]], [[DvorakDvořák]] a [[Tchaikovsky]], tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.
 
Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed]], daeth cyfansoddwyr fel [[Anton Bruckner]] a [[Gustav Mahler]] â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan [[cerddorfa|gerddorfeydd]] mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.
Defnyddiwr anhysbys