Ankara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Danielt998 (sgwrs | cyfraniadau)
B wedi ychwanegu blwch llywio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Ankara.jpg|200px|bawd|Golygfa o Ankara o'r Gerddi Botanegol]]
[[Prifddinas]] [[Twrci]] a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw '''Ankara''' (hefyd: '''Ancara'''; hen enwau '''Angora''' ac '''Ancyra'''), sy'n brifddinas [[Talaith Ankara]] yn ogystal. Ym [[2007]] roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Lleolir Ankara 938 medr uwchben lefel y môr. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf yr wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei [[gafr|geifr]] blew hir ynghyd â'r [[gwlân]] arbennig a geir ohonynt, sef [[gwlân Angora]].
 
Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldir [[Asia Leiaf|Anatolia]] ac mae'n groesffordd [[cludiant]] bwysig iawn i [[ffordd|ffyrdd]] a'r [[rheilffordd|rheilffyrdd]] fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a [[Prifysgol Ankara|Phrifysgol Ankara]] ei hun. Mae [[Llyfrgell Genedlaethol Twrci]] a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.