Llyn Padarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Llyn yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Llyn Padarn'''. Saif yn [[Eryri]], gyda llyn arall, [[Llyn Peris]] fymryn i'r de-ddwyrain. Mae'n 280 acer o arwynebedd, tua dwy filltir o hyd a 94 troedfedd yn y man dyfnaf. Saif tref [[Llanberis]] ar y lan ddeheuol.
 
Daw'r enw o sant [[Padarn]], a gelwir y tir rhwng y llyn yma a Llyn Peris yn [[Dolbadarn]]. Yma mae [[Castell Dolbadarn]] ar godiad tir rhwng y llynnoedd. Ar lan gogleddol y llyn mae [[Parc Gwledig Padarn]], ac mae [[Rheilffordd Padarn]] yn yn arwain ar hyd y lan ogleddol, yn cychwyn o'r Parc. Yn wreiddiol defnyddid y rheilffordd yma i gario llechi o [[Chwarel Dinorwig]] i'r [[Felinheli]]. Mae [[Amgueddfa Llechi Cymru]] yma hefyd, yn hen weithdai Chwarel Dinorwig yn y Gilfach Ddu.
 
Yn y [[18fed ganrif]] roedd [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] yn [[Nant Peris]], a byddai'r copr yn cael eu gario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn. Y mwyaf adnabyddus o'r bobl oedd wrth by gwaith yma oedd [[Marged Uch Ifan]], a ddaeth yn rhan o draddodiad gwerin.