Marged uch Ifan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cymeriad a ddaeth yn enwog yn nhraddodiad gwerin [[Eryri]] oedd '''Marged uch Ifan''' neu '''Marged vch Ifan''' ([[1696]] - [[1788]]?). Roedd yn enwog am ei nerth anhygoel a'i gallu i ganu'r [[Telyn|delyn]] ymysg campau eraill.
 
Dywedir ei bod yn wreiddiol o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], lle roedd yn cadw tafarn y Telyrniau. Sumudodd wedyn i fyw ym Mwthyn Penllyn ger [[Llyn Padarn]], lle roedd yn ennill bywoliaeth trwy gludo mwyn [[copr]] o fwyngloddiau [[Nant Peris]] i ben isa'r llyn ger [[Brynrefail]]. Ceir llawer o wybodaeth amdani gan [[Thomas Pennant (awdur)|Thomas Pennant]], a ymwelodd a'i thŷ ar ei daith trwy Gymru yn 1786, dim ond i ddarganfod ei bod oddi cartref ar y pryd. Roedd yn enwog fel helwarig, a dywedid ei bod hi a'i chŵn yn dal mwy o lwynogod mewn blwyddyn nag y gallai neb arall eu dal mewn deng mlynedd. Roedd yn enwog am ei nerth, a dywedid ei bod yn medru ymaflyd codwm ag unrhyw un hyd yn oed pan oedd yn 70 oed. Adroddir i un o'r mwynwyr copr, dyn mawr cryf, gamdrin un o'i chŵn unwaith, ac i Marged roi dyrnod iddo a'i tarawodd yn anymwybodol, a dywedai'r rhai a'i gwelodd y byddai un ddyrnod arall debyg wedi ei ladd.
 
Ceir côf am ei gallu i ganu'r delyn yn yr hen bennill adnabyddus (gyda nifer o fersiynau ychydig yn wahanol):