Hwyaden yr eithin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
redirecting to Hwyaden yr Eithin
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Blwch tacson
#REDIRECT| enw = [[Hwyaden yr Eithin]]
| delwedd = Common.shelduck.2.arp.750pix.jpg
| maint_delwedd = 225px
| neges_delwedd = Ceiliog
| regnum = [[Animalia]]
| phylum = [[Chordata]]
| classis = [[Aves]]
| ordo = [[Anseriformes]]
| familia = [[Anatidae]]
| genus = ''[[Tadorna]]''
| species = '''''T. tadorna'''''
| enw_deuenwol = ''Tadorna tadorna''
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758)
}}
Mae '''Hwyaden yr eithin''' ('''''Tadorna tadorna''''') yn aelod o deulu'r [[Anatidae]], yr hwyaid, gwyddau ac elyrch. Mae'n nythu yn rhannau gogleddol [[Ewrop]] ac [[Asia]].
 
Nid yw Hwyaden yr eithin yn [[aderyn mudol]] yng ngorllewin Ewrop, er bod adar o'r rhannau lle mae'r gaeafau'n oerach yn symud tua'r de i aeafu. Mae'n aros o gwmpas yr ardal lle mae'n nythu heblaw ddiwedd yr haf ar ôl gorffen nythu. Yr adeg honno maent yn casglu at ei gilydd i fwrw eu plu, ac mae nifer fawr, 100,000 neu fwy yn casglu ar [[Môr Wadden|Fôr Wadden]] ger arfordir gogleddol [[Yr Almaen]]. Dim ond ychydig o'r oedolion sy'n aros ar ôl i edrych ar ôl y cywion, ac weithiau gellir gweld casgliad o tua 40 - 60 o gywion yng ngofal dau neu dri o oedolion.
 
Mae'n nythu mewn tyllau - un ai hen dyllau [[Cwningen|cwningod]] neu dwll mewn coeden neu unrhyw le arall addas. Yn y gaeaf gellir eu gweld gweld ar lan y môr ac aberoedd lle bynnag mae digon o fwd lle gallant fwydo.
 
Gellir adnabod yr aderyn yma'n hawdd, gyda'i gorff gwyn a browngoch, pen gwyrdd (fel rheol yn edrych yn ddu) a phig coch. Mae'r rhan agosaf i'r pen o big y ceiliog yn chwyddo yn y tymor nythu.
 
Mae Hwyaden yr eithin yn aderyn cyffredin o gwmpas glannau môr [[Cymru]] ac mae nifer sylweddol ohonynt yn nythu.
 
Mae Hwyaden cytras yn [[Seland Newydd]] o'r enw ''Putangitangi'' (''Tadorna variegata'') yn yr iaith [[Maori (iaith)|Maori]].
[[Delwedd:Tadorna tadorna (aka).jpg|chwith|200px|bawd|Iâr]]
 
[[Categori:Hwyaid]]