Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 149:
|}
[[File:Tim Pêl-droed Cymru Bws Agored Caerdydd.jpg|thumb|Ar ôl cyrraedd rownd cyn-derfynol pencampwriaeth [[Pencampwriaeth UEFA Euro 2016|UEFA Euro 2016]], dychwelodd Tîm Pel-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas [[Caerdydd]].]]
Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon|Gogledd Iwerddon]] ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. EnnilloddEnillodd Cymru y gem 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36630803|title=Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon: Cyrraedd yr 8 olaf|publisher=BBC Cymru |date=2016-06-26 |accessdate=Mehefin 2016}}</ref> Ennillodd Cymru y rownd go-gynderfynol 3-1 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Belg|Gwlad Belg]]<ref>{{cite web|url=https://www.theguardian.com/football/live/2016/jul/01/cymru-v-gwlad-belg-yn-fyw|title=Cymru v Gwlad Belg – fel digwyddodd|publisher=The Guardian |date=2016-07-01 |accessdate=Gorffennaf 2016}}</ref>, gan sicrhau eu lle mewn rownd gynderfynol cystadleuaeth pêl-droed rhyngwladol am y tro cyntaf erioed. [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Portiwgal|Portiwgal]] oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd [[Ben Davies (pêl-droediwr)|Ben Davies]] nac [[Aaron Ramsey]] yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36731154|title=Cymru allan o Euro 2016 wedi colled yn erbyn Portiwgal|publisher=BBC Cymru |date=2016-07-06 |accessdate=Gorffennaf 2016}}</ref>
 
Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym [[Maes Awyr Caerdydd]], teithiodd y garfan i [[Castell Caerdydd|Gastell Caerdydd]], lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to-agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn [[Stadiwm Dinas Caerdydd]], ble cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y [[Manic Street Preachers]] a [[Kizzy Crawford]].<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/byw/36738407|title=Croeso'n ôl i Garfan Cymru|publisher=BBC Cymru|date=2016-07-08 |accessdate=Gorffennaf 2016}}</ref>