Yr Eglwys Geltaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Eglwys Geltaidd
 
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Inis Mor - Seven Churches - Celtic cross.JPG|bawd|Croes Geltaidd cynnar yn [[Inis Mór]], [[Iwerddon]].]]
Term yw'r '''Eglwys Geltaidd''' (Saesneg: ''Insular Christianity'') a ddefnyddid yn gyntaf gan [[William Salesbury]] (1520 - c. 1584) ac eraill wrth gyfeirio at [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] y mileniwm cyntaf yn y gwledydd lle siaredid yr [[ieithoedd Celtaidd]]. Mynnai Salesbury, [[Richard Davies]] (c. 1501-1581) a [[Protestaniaeth|Phrotestaniaid]] eraill wrthgyferbynnu purdeb yr Eglwys fore yng ngwledydd Prydain ag amhurdeb gweddill y byd Cristnogol. Roedd eu dadleuon dros fodolaeth yr Eglwys Geltaidd yn pwysleisio fod cynseiliau'r [[Diwygiad Protestanaidd]] yn yr eglwysi a fodolai yn y gwledydd hyn cyn y gyfundrefn 'Rufeinig'.
 
Llinell 4 ⟶ 5:
# trefn wahanol o gyfrif union ddyddiad [[y Pasg]]
# steil gwallt y mynachod. Ysgirfennwyd yn y [[7C]]: ''"Britones toti mundo contrarii, moribus Romanis inimici, non solum in missa sed in tonsura etiam"'' ("Mae'r Brythoniaid yn gwbwl wahanol i weddill y byd, ac yn elyniaethus i arferion Rhufain, nid yn unig yn y gwasanaethau, ond hefyd yn eu gwallt (''tonsura'').")<ref>A. W. Haddan and W. Stubbs (ed.), ''Councils and Ecclesiastical Documents Relating to Great Britain and Ireland'', 3 vols (Rhydychen, 1869–78), I, 112-3</ref>
# penyd:, sef hunan-gosb wirfoddol a wneir fel iawn am bechod neu drosedd. Cyflwynodd Columbanus penyd corfforol, y ''medicamenta paentitentiae'', ac roedd yn arferiad i benyd gael ei wneud yn breifat o fewn yr Eglwys Geltaidd yn hytrach na thrwy wisgo sach liain a lludw, yn gyhoeddus. Erbyn 1215 roedd penyd tawel i'r offeiriad wedi ei dderbyn ym mhob rhan o'r Eglwys Gatholig.<ref>''Medieval Handbooks of Penance'', eds. John T. McNeil and Helena M. Gamer (New York, Columba University Press, 1938).</ref>
# Yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith daeth y ''peregrinatio pro Christo'' ("alltud dros Grist") yn boblogaidd. Roedd yr alltudiaeth hwn yn wirfoddol, a gellid symud o ardal, neu hyd yn oed wlad.
 
==Cyfeiriadau==