Yr Eglwys Geltaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Term yw'r '''Eglwys Geltaidd''' (Saesneg: ''Insular Christianity'') a ddefnyddid yn gyntaf gan [[William Salesbury]] (1520 - c. 1584) ac eraill wrth gyfeirio at [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] y mileniwm cyntaf yn y gwledydd lle siaredid yr [[ieithoedd Celtaidd]]. Mynnai Salesbury, [[Richard Davies]] (c. 1501-1581) a [[Protestaniaeth|Phrotestaniaid]] eraill wrthgyferbynnu purdeb yr Eglwys fore yng ngwledydd Prydain ag amhurdeb gweddill y byd Cristnogol. Roedd eu dadleuon dros fodolaeth yr Eglwys Geltaidd yn pwysleisio fod cynseiliau'r [[Diwygiad Protestanaidd]] yn yr eglwysi a fodolai yn y gwledydd hyn cyn y gyfundrefn 'Rufeinig'.
 
Mynn rhai ysgolheigion nad oedd y fath beth yn bodoli, ond fod nifer o nodweddion yn gyffredin rhwng y gwledydd Celtaidd, nad oedd ar gael yn unman arall nac o fewn yr eglwys Rhufeinig, Gatholig. Daeth pobl o wahanol enwad i ddefnyddio'r term, gan gynnwys [[Nora Chadwick]], [[Kenneth Jackson]] a Caitlin Corning, a thyfodd ei boblograwydd gan grwpiau a ddymunai weld y 'teulu Celtaidd' yn un. Ar y llaw arall, ceir dadleuwyr cryf yn erbyn bodolaeth eglwys Geltaidd gan nifer o Saeson, a gwell ganddynt yw defnyddio'r term ''Insular Christianity'' yn hytrach na ''The Celtic Church''. Y term [[Almaeneg]] am yr Eglwys Geltaidd yw ''"Iroschottisch"''. Mae'r rhan fwyaf o academyddion, bellach, yn gytun nad oedd yr Eglwys Geltaidd yn endid fonolithig, gwrth-Babyddol, ond yn hytrach fod gan yr eglwysi yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith gysylltiad clos aâ'i gilydd - a nifer o 'draddodiadau' neu nodweddion gwahanol iawn i Rufain, ac yn eu plith:
# trefn wahanol o gyfrif union ddyddiad [[y Pasg]]
# steil gwallt y mynachod. Ysgirfennwyd yn y [[7C]]: ''"Britones toti mundo contrarii, moribus Romanis inimici, non solum in missa sed in tonsura etiam"'' ("Mae'r Brythoniaid yn gwbwl wahanol i weddill y byd, ac yn elyniaethus i arferion Rhufain, nid yn unig yn y gwasanaethau, ond hefyd yn eu gwallt (''tonsura'').")<ref>A. W. Haddan and W. Stubbs (ed.), ''Councils and Ecclesiastical Documents Relating to Great Britain and Ireland'', 3 vols (Rhydychen, 1869–78), I, 112-3</ref>
# penyd:, sef hunan-gosb wirfoddol a wneir fel iawn am bechod neu drosedd. Cyflwynodd Columbanus penyd corfforol, y ''medicamenta paentitentiae'', ac roedd yn arferiad i benyd gael ei wneud yn breifat o fewn yr Eglwys Geltaidd yn hytrach na thrwy wisgo sach liain a lludw, yn gyhoeddus. Erbyn 1215 roedd penyd tawel i'r offeiriad wedi ei dderbyn ym mhob rhan o'r Eglwys Gatholig.<ref>''Medieval Handbooks of Penance'', eds. John T. McNeil and Helena M. Gamer (New York, Columba University Press, 1938).</ref>
# Ynyn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith daeth y ''peregrinatio pro Christo'' ("alltud dros Grist") yn boblogaidd. Roedd yr alltudiaeth hwn yn wirfoddol, a gellid symud o ardal, neu hyd yn oed wlad.
# amgylchfyd gwledig yr eglwysi a pherthynas agos â natur<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru) 2008; t. 323.</ref>
# diffyg hierarchiaeth eglwysig clir e.e. rhoed pwyslais ar yr [[abad]] yn hytrach nag ar yr [[esgob]].
 
==Y cyswllt clos==
Roedd cysylltiad agos a chlos rhwng yr eglwysi Celtaidd eu hiaith. O Gymru y daeth llawer o genhadon cynnar [[Iwerddon]] ac oddi yno y teithiodd llawer i'r [[Alban]]. O Gernyw a Chymru hefyd y daeth llawer o genhadon a deithiodd i [[Llydaw|Lydaw]].
 
==Cyfeiriadau==