El Haouaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Chwareli-ogofau Ffenicaidd El Haouaria Tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Tunisia yw '''El Haouaria''' neu '''El-Haouaria'''. Fe'i ll...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Tref fechan yng ngogledd-ddwyrain [[Tunisia]] yw '''El Haouaria''' neu '''El-Haouaria'''. Fe'i lleolir ger penrhyn [[Cap Bon]] yn yr ardal o'r un enw, yng ngogledd talaith [[Nabeul (talaith)|Nabeul]]. Filltir a hanner i'r gogledd o'r dref ceir hen chwareli [[Ffenicia]]idd-[[Rhufeiniaid|Rhufeinig]] El Haouaria. Mae'r dref ei hun yn gorwedd ar ysgwydd o dir uwch rhwng y safle hwnnw a harbwr Ras el-Drek a'i draeth.
 
Yn codi tu ôl i'r dref mae Cap Bon ei hun, gyda [[goleudy]] yn sefyll uwch y clogwynni ysgythrog. Jebel Abiod yw enw'r copa uchaf. Mae'r dref ei hun yn dawel a dim ond yr hen chwareli sy'n atynnu ambell ymwelydd yn yr haf.
 
Mae'r drefEl Haouaria yn adnabyddus hefyd am ei chanolfan [[hebogaeth]]. Er ei bod yn gysylltiedig â bywyd y bendefigaeth yn Ewrop, yn El Haouaria y werin bobl sy'n ymddiddori ynddi. Mae'r adar yn perthyn i deuluoedd ac yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
 
Ym misoedd Mai a Mehefin, daw nifer o ornitholegwyr i'r rhan yma o'r Cap Bon er mwyn gweld yr adar niferus sy'n aros yno i ddal thermal i'w cludo dros [[Culfor Sisili|Gulfor Sisili]] i'w tir nythu yn Ewrop.