Gwlff Tiwnis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
Llinell 1:
[[Delwedd:Gulf_of_Tunis_NASA.jpg|300px|bawd|Delwedd lloeren NASA o '''Gwlff Tunis''']]
[[Bae]] mawr agored yn ne'r [[Môr Canoldir]] ar arfordir gogleddol [[Tunisia]] yw '''Gwlff Tunis'''. Mae'n ymestyn o [[Penrhyn Carthage|Benrhyn Carthage]] (''Cap Carthage'': hefyd ''Cap Farina'') yn y gorllewin i bwynt gogleddol [[Cap Bon]] yn y dwyrain, pellter o tua 75 km. Ers dyddiau'r [[FfeniciaidFfenicia]]id a'r [[Rhufeiniaid]] mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys [[Sisili]] a [[Sardinia]] ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy [[Culfor Sisili|Gulfor Sisili]].
 
Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines [[Elissa]] (Dido yn ''Eneid'' [[Fferyllt]]) a'i llynges o ffoaduriaid o [[Tyros]] (''Tyre'' - mam-ddinas y Carthageniaid yn [[Ffenicia]]) tua 700 CC a sefydlu dinas [[Carthage]]. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr [[Henfyd]].
 
Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) [[Sidi Bou Saïd]] ar Benrhyn Carthage, [[Carthage]] ei hun, [[La Goulette]] ar y fynedfa i [[Llyn Tunis]] a dinas [[Tunis]] ei hun, [[Rades]], ez-Zahra a [[Hammam Lif]]. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tunis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw [[Korbous]] (tref spa) a [[Sidi Daoud]] (porthladd bysgota).
 
Oddi ar benrhyn gogleddol [[Cap Bon]] ceir dwy ynys ddeniadol, [[Zembra]] a [[Zembretta]], sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin y mae mynydd triphyg trawiadol [[Bou Kornine]].
 
===Oriel===
Llinell 15:
Image:ElHaouria_latomies.jpg|Chwarel [[Carthage]]naidd [[El-Haouaria]], Cap Bon
</gallery>
 
===Gweler hefyd===
* [[Cap Bon]]
* [[Nabeul (talaith)|Talaith Nabeul]]
* [[Tunis Fwyaf]]
 
 
[[Categori:Daearyddiaeth Tunisia]]