Beli Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Beli Mawr''' neu '''Beli (Mawr) fab Manogan''' yn gymeriad mewn mytholeg Gymreig ac yn ymddangos fel brenin Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]'' a briodolir i [[Nennius]].
 
Mae'n cael ei enwi ar ddechrau ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', yn [[Llyfr Taliesin]] ac yn ''[[Breuddwyd Macsen]]'', lle dywedir fod [[Macsen Wledig]] wedi cymeryd meddiant ar [[Ynys PrydainBrydain]] oddi ar Beli fab Manogan. Yn yr [[Hen Ogledd]], roedd arweinwyr ac arwyr fel [[Urien Rheged]], [[Gwenddolau]] a [[Llywarch Hen]] yn olrhain eu tras i Feli trwy eu cyndaid [[Coel Hen]]. Roedd pob un o deuluoedd brenhinol Cymru, er enghraifft teulu [[Cunedda]], sefydlydd [[teyrnas Gwynedd]], yn hawlio bod yn ddisgynyddion Beli Mawr. Fe all fod yn cyfateb i'r duw [[y Celtiaid|Celtaidd]] [[Belenus]].
 
Mewn rhai ffynonellau mae'r dduwies [[Dôn]] yn ferch iddo. Cyfeirir ato fel tad [[Caswallon]] a [[Lludd]].