Hen Wyddeleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
fymryn chwaneg
Llinell 2:
 
Yn ogystal â'r meini Ogham, ein prif ffynonnellau am yr Hen Wyddeleg yw [[glos]]au cynnar (geiriau neu frawddegau yn y Wyddeleg ar ymyl [[llawysgrif]]au yn esbonio, cyfieithu neu egluro testun [[Lladin]]). Fel mae'n digwydd, mae'r mwyafrif o'r glosau hyn i'w cael mewn llawysgrifau cyfandirol a ysgrifennwyd yng nghanolfannau dysg [[gorllewin Ewrop]] yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]]; mae'r llawysgrifau pwysicaf yn gysylltiedig â mynachlogydd [[Würzburg]], [[Milan]], [[Turin]] a [[St. Gall]] ac yn brawf o bresenoldeb mynachod ac ysgolheigion o Iwerddon yn y sefydliadau hynny.
 
==Rhai enghreifftiau o Hen Wyddeleg==
Daw'r enghreifftiau isod o lawysgrifau Lladin gan fynachod Gwyddelig ar y cyfandir. Agorent ffenestr ar ei fywyd yn y ''[[sgriptoriwm]]'', wedi blino ar y gwaith copïo:
:''Uch mo chliab, a nóib-ingen'' - "Och! fy mrest, O Forwyn Santaidd" (byddai'r copïydd ar ei sefyll yn pwyso ar y ddesg uchel)
:''Már úar dam'' - "Dwi'n oer iawn"
:''Memmbrun naue, droch dub. O ní epur na haill'' - "[[Memrwn]] newydd, inc gwael. O! ni ddywedaf ragor!"
 
==Llyfryddiaeth==