Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: cywiro dolenni
Tacluso Iaith
Llinell 1:
[[Priordy]] yn [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] a sefydlwyd yn [[Oes y Seintiau]] ac a ddaeth yn ddiweddarach i berthyn i [[Urdd yr Awstiniaid]]. Nid yw'n sefyll heddiw. Yno yn y [[13eg ganrif]] yr ysgrifenwyd [[Llyfr Du Caerfyrddin]], un o'r [[Llawysgrifau Cymraeg|llawysgrifau Cymraeg]] hynaf.
 
== Hanes ==
Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i [[Oes y Seintiau yng Nghymru|oes y saint Celtaidd cynnar]] pan sefydlwyd '[[clas]]' (cell neu fynachlog feudwyol) gan [[Teulyddog]] Sant, efallai yn y [[6ed ganrif]]. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r ddwyraindwyrain o'r hen [[Tref Rufeinig|dref Rufeinig]] [[Maridunum]] ar lan ddwyreiniol [[afon Tywy]] y codwyd yr [[eglwys]] gynharaf. Erbyn [[1100]] roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i [[Ioan|Ieuan Efengylwr]]; eglwys [[plwyf]] Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i abaty ''[[Abaty Battle]]'' gan y brenin [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] a daeth yn eiddo i [[Urdd y Benedictiaid]] am rai flynyddoeddblynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr [[Bernard, Esgob Tyddewi|Esgob Bernard]] o [[Tyddewi|Dyddewi]] yn [[1125]] a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y [[priordy]] (nid oedd hynny'n wir am bob priordy [[Normaniaid|Normanaidd]] yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifenwr anhysbys a oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref.
 
Yn [[1291]] roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o dir ârag oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn [[1336]] roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech [[canon]] yn byw yno yn [[1379]]. Erbyn diwedd y [[14eg ganrif]] roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth [[Owain Glyndŵr]] dioddefodd ddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan [[1536]]; pan gafodd ei [[Diddymu'r mynachlogydd|ddiddymu]] roedd [[prior]] ac wyth canon yn byw yno gyda tua 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.
 
== Yr Adeiladau ==
DiflanwydDiflanodd bron y cyfan o'r adeiladau olaf oedd yn dal i sefyll pan gododd [[Yr Arglwydd Cawdor]] waith [[plwm]] ar y safle yn y [[18fed ganrif]]. Cloddiwyd y safle yn [[1979]] gan [[Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed]] a darganuwyd safle rhai o'r adeiladau, gan gynnwys hwnnw'r eglwys, a oedd â hyd o 55m, o leiaf. Roedd yr adeiladau i gyd yn gorwedd y tu mewn i lan sylweddol gyda phorth yn y gogledd-orllewin; mae'r porth yn dal i sefyll heddiw ar Ffordd Y Priordy. Yn anffodus nid yw'n bosibl lleoli'r ''[[scriptorium]]'' lle, mae'n debyg, yr ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin.
 
== Llyfryddiaeth ==