Isadeiledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 59 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q121359 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:2007 San Francisco Market & Drumm Sts 01.jpg|bawd|Golwg oddi uchod ar gornel stryd yn [[San Francisco]]: [[tram]], [[car codi]], ffordd foduron, a mynedfa'r [[rheilffordd danddaearol]]. System [[cludiant cyhoeddus|gludiant cyhoeddus]] yw un o hanfodion y ddinas fodern.]]
Yn gyffredinol, casgliad o bethau rhyng-gysylltiol sy'n darparu'r fframwaith sydd yn cynnal holl strwythur neu adeiledd yw '''isadeiledd''' (weithiau '''rhwydwaith mewnol''' neu '''seilwaith'''). Mae gan y term ystyron amrywiol mewn meysydd gwahanol, ond defnyddir yn bennaf i gyfeirio at y [[ffordd|ffyrdd]], [[carthffos]]ydd, ceblau [[trydan]], ac ati, sydd mewn [[dinas]] neu [[rhanbarth|ranbarth]].
Y strwythurau, systemau a chyfleusterau sy'n cynnal neu wasanaethu ardal ddaearyddol neu [[diwydiant|ddiwydiant]] penodol yw '''isadeiledd''',<ref>{{dyf GPC |gair=isadeiledd |dyddiadcyrchiad=30 Hydref 2016 }}</ref> '''tanadeiledd''',<ref>{{dyf GPC |gair=tanadeiledd |dyddiadcyrchiad=30 Hydref 2016 }}</ref> '''seilwaith''' neu '''rwydwaith mewnol'''. Casgliad o'r adeileddau sy'n gosod sylfaen economaidd ar gyfer system ryng-gysylltiol yw isadeiledd: y cyfarpar [[cyfalaf]] sy'n ffurfio fframwaith er mwyn i [[economi]] weithredu.<ref>Arthur O'Sullivan a Stven M. Sheffrin. ''Economics: Principles in Action'' (Upper Saddle River, New Jersey, Pearson Prentice Hall, 2003), t. 474.</ref> Mae isadeiledd yn nodwedd hollbwysig o'r byd modern, ac yn hanfodol wrth alluogi safonau byw da, yn enwedig mewn [[ardal drefol|ardaloedd trefol]]. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at yr adeiladwaith materol sy'n galw am arbenigedd technegol ac arian i'w gynnal a chadw: [[ffordd|ffyrdd]], [[pont]]ydd, [[twnel]]i, [[rheilffordd|rheilffyrdd]], [[doc]]iau, pibelli dŵr, [[carthffosiaeth|carthffosydd]], ceblau [[trydan]], [[telegyfathrebu]], ac ati. Mewn ystyr ehangach, sy'n ystyried sylfeini cymdeithasol a gwleidyddol, gall isadeiledd gynnwys sefydliadau megis y [[llywodraeth]], yr [[heddlu]], [[llys barn|llysoedd barn]], [[ysbyty|ysbytai]], [[banc]]iau ac [[ysgol (addysg)|ysgolion]].
 
[[Gwasanaeth cyhoeddus (cwmni)|Gwasanaethau cyhoeddus]] yw isadeiledd yn gyffredinol ac felly dan reolaeth y wladwriaeth, naill ai drwy [[gwladoli|berchenogaeth]] neu [[rheoliad|reoliadau cyfreithiol]]. Mae isadeiledd mewn gwledydd sy'n llai economaidd ddatblygedig yn tueddu i fod yn annibynadwy neu heb fod ar gael ac yn rhwystro datblygiad economaidd.<ref>John Black, Nigar Hashimzade, a Gareth Myles. ''A Dictionary of Economics'' (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 229.</ref> Oherwydd ei gostau uchel, mae'n rhaid i wledydd datblygedig fuddsoddi mewn isadeiledd yn gyson er mwyn ei atal rhag rhag dirywio ac i'w uwchraddio yn sgil datblygiadau technolegol.
{{eginyn adeiladu}}
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Isadeiledd| ]]