Ceridwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Duwies Gymreig a Cheltaidd yw '''Ceridwen'''. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r Taliesin chwedlonol (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) ...
 
llun / llyfryddiaeth
Llinell 1:
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|300px|bawd|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]]
[[Duwies]] Gymreig a Cheltaidd yw '''Ceridwen'''. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]''. Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', oedd Cyrridfen (o ''cyrrid-'' "rhywbeth cam"? + ''ben'' "gwraig, benyw"). Ond mae ''gwen'' yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau benywaidd ([[Gwenffrewi]], [[Dwynwen]], er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel [[Gwenhwyfar]] a [[Branwen]]. Rhydd [[Rachel Bromwich]] "''teg ac annwyl''" i'r enw Ceridwen.
 
Llinell 8 ⟶ 9:
 
Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd [[Taliesin]], yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr [[Awen]] ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd.
 
==Cyfeiriadau==
*Rachel Bromwich, ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991)
*Patrick K. Ford, ''Ystoria Taliesin'' (Caerdydd, 1992)
*Ifor Williams, ''Chwedl Taliesin'' (Caerdydd, 1957)
 
[[Categori:Duwiesau]]