Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ceridwen"

Lleihawyd o 1 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(llun / llyfryddiaeth)
BNo edit summary
Yn y chwedl am Daliesin mae Ceridwen yn wraig i [[Tegid Foel|Degid Foel]] ac yn byw ym [[Penllyn|Mhenllyn]] ar lan [[Llyn Tegid]] (ger [[Y Bala]] heddiw). Fe'i cysylltir â [[dŵr]] a pherlysiau "rhinweddol" (h.y. sy'n iachau neu sy'n gysylltiedig â grymoedd hud a lledrith). Mae hi'n berwi'r llysiau mewn [[pair]] "am undydd a blwyddyn" ar lan y llyn ar gyfer ei mab [[Morfran]] (a lysenwir 'Afagddu' am ei fod mor hyll). Yn ogystal mae ganddi ferch hardd o'r enw [[Creirwy]], sy'n un o "Dair Gwenriain Ynys Brydain" yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]].
 
Mae'r bortread o Geridwen yn berwi ei pherlysiau yn y pair yn debyg i'r disgrifiadau traddodiadol o [[gwrach|wrachod]] (fel y tair gwrach yn ''[[Macbeth]]'' [[Shakespeare]]). Mae'n debyg mai duwies [[Natur]] gyda galluoedd creadigol a dinistriol oedd hi, fel [[Hecate]] ym [[mytholeg Roeg]]. Mae hi'n newid rhith wrth geisio dal Gwion Bach/Taliesin, gan newid yn sgwarnogfiliast, yn iâr ac yn bysgodyn, ac mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn cynrychioli Natur.
 
Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd [[Taliesin]], yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr [[Awen]] ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd.