Ceridwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|300px|bawd|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]]
[[Duwies]] Gymreig a Cheltaidd yw '''Ceridwen'''. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]''. Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', oedd Cyrridfen (o ''cyrrid-'' "rhywbeth cam"? + ''ben'' "gwraig, benyw"). Ond mae ''gwen'' yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau benywaiddCymreig ([[Gwenffrewi]], [[Dwynwen]], er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel [[Gwenhwyfar]] a [[Branwen]]. Rhydd [[Rachel Bromwich]] "''teg ac annwyl''" i'rfel ystyr yr enw Ceridwen.
 
Roedd Ceridwen yn dduwies [[Celtaidd|Geltaidd]] yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr [[llên gwerin]]. Gellid ei hystyried yn agwedd ar y [[Mam-dduwies|Fam-dduwies]] ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid.