Afon Cynfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Cwrs yr afon==
Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir [[cors]]iog uchel agored rhwng [[Ffestiniog]] ac [[Ysbyty Ifan]]. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o [[Llyn Conwy|Lyn Conwy]] yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filtir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan [[Pont|bont]] bach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'r tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger [[Llyn y Dywarchen, Migneint|Llyn y Dywarchen]].
 
Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn rhedeg trwy [[Ceunant|geunant]] ddwfn lle ceir Rhaeadr-y-cwm; llecyn deniadol yw hyn a chyrchfa poblogaidd. Rhed yr afon yn ei blaen rhwng [[bryn]]iau [[coed]]iog i lawr i Bont Newydd lle mae priffordd yr [[A470]] yn ei chroesi. Filltir i lawr o fan 'na mae Rhaeadr Cynfal. Yno y ceir Pwlpud [[Huw Llwyd]] a gysylltir â'r bardd-ddewin enwog hwnnw. Dywedir ei fod yn mynd yno liw nos i fyfyrio ac i gonsurio ysbrydion. Mae'r Pwlpud tafliad carreg o hen blasdy Cynfal-fawr lle ganwyd Huw Llwyd a'i berthynas [[Morgan Llwyd]], y cyfrinydd a llenor adnabyddus. Rhed yr afon yn ei blaen i ddisgyn yn syrth trwy'r Gellidywyll goediog ac [[aber]]u yn [[Afon Dwyryd]] ger Pont Tal-y-bont, sy'n cludo'r [[A496]] i [[Blaenau Ffestiniog|Flaenau Ffestiniog]].